Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Ionawr 2016
Amser: 09.20 -
12.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3295
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Angela Burns AC Suzy Davies AC Lynne Neagle AC David Rees AC Aled Roberts AC Simon Thomas AC Rhodri Glyn Thomas AC |
Tystion: |
Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Jo-Anne Daniels, Llywodraeth Cymru Huw Morris, Llywodraeth Cymru Steven Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i'r cyfarfod, a diolchodd i David Rees am weithredu fel Cadeirydd dros dro.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies a John Griffiths. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Gweinidog a'i swyddogion a diolchodd iddynt am eu papur manwl.
Datganodd Aled Roberts AC fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24; oherwydd bod ei wraig yn cael ei chyflogi yn y sector addysg bellach a'i bod yn gyfrifol am y Gymraeg a Chymraeg i Oedolion yng Ngholeg Cambria, a bod ei fab yn fyfyriwr amser llawn yn derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Holodd y Pwyllgor y Gweinidog ar gynigion y gyllideb ddrafft. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
Cafodd y papurau eu nodi.
Derbyniwyd y cynnig.
Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, a byddai llythyr yn cael ei anfon at y Pwyllgor Cyllid.
Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith hyd at ddiwedd y tymor.